SL(5)413 – Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/50 (Cy. 15)) (“Rheoliadau 2019”) er mwyn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau 2019.

Mae Rheoliadau 2019 yn pennu pob tanwydd sydd wedi ei awdurdodi ar hyn o bryd i’w ddefnyddio mewn ardaloedd rheoli mwg yng Nghymru at ddibenion adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (p. 11).

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) (sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Roedd adroddiad y Pwyllgor ar Reoliadau 2019 yn cynnwys pwynt adrodd technegol mewn perthynas ag anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg ym mharagraff 71(c) o'r Atodlen. Roedd y testun Saesneg yn cynnwys y cymal a ganlyn: "...between approximately 30 millimetres and 130 millimetres in length". Fodd bynnag, roedd y testun Cymraeg yn cynnwys y ffigur "150" yn lle "130". Roedd y fanyleb gywir i'w gweld yn y testun Saesneg, ac felly roedd angen cywiro'r testun Cymraeg. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud y cywiriad hwnnw.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

24 Mai 2019